Ciw-restr

Cofia'n Gwlad

Llinellau gan Ysbryd y Bardd (Cyfanswm: 20)

 
(2, 2) 1020 Nag wyt, gyfaill.
(2, 2) 1021 Wrth gwrs nag wyt ti.
(2, 2) 1022 A nid dy fai di yw hynny.
(2, 2) 1023 Mi wyt yn un â'r lleng.
(2, 2) 1024 Mi wyt - drwy hap a hapus ddamwain – yn rhan o'r llif.
(2, 2) 1025 Dwyt ti erioed wedi sefyll – wedi gorfod sefyll - yn ei erbyn.
(2, 2) 1026 Dwyt ti erioed wedi profi grym y canol hollbwerus yn amsugno'r ymylon anystywallt at beiriant mawr grym ac ufudd-dod.
(2, 2) 1027 Dwyt ti ddim yn anghydffurfiwr.
(2, 2) 1028 Dwyt ti ddim – hyd yn hyn, beth bynnag – yn wrthdystiwr.
(2, 2) 1029 ~
(2, 2) 1030 ~
(2, 2) 1031 A'm calon innau'n llawn ystormus lid
(2, 2) 1032 A siomedigaeth, weled gwywo gwrid
(2, 2) 1033 Gobeithion gloywon ac ymdeithion oes –
(2, 2) 1034 Nid ufudd oeddwn oddi tan y groes.
(2, 2) 1035 ~
(2, 2) 1036 [Y Trydydd – T Gwynn Jones]
 
(2, 2) 1038 Esgusodwch fi. Lle anodd yw'r tŷ hwn. Lle anodd iawn.
 
(2, 9) 1426 Am hynny cas gennyf einioes, canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul; canys...
 
(2, 9) 1428 ... a gorthrymder ysbryd...